Blog OPSWISE
Mae’r blog yma yn le i rannu newyddion am OPSWISE gyda pawb sydd a diddordeb. Byddwn yn blogio am yr astudiaeth fel y mae’n datblygu, rhannu gwybodaeth a darparu linciau i adnoddau defnyddiol. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau sydd gennych. Os ydych a diddordeb mewn canfod mwy am astudiaeth OPSWISE, ymwelwch a ni ar opswise.wordpress.com
Amcanion yr astudiaeth
Byddwn yn mynd i'r afael â'r cwestiwn canlynol a'r amcanion canlynol.
Sut gall ymyriadau i ddatblygu'r gweithlu wella sgiliau a safonau gofal gweithwyr sy'n rhoi cefnogaeth glinigol ym maes gwasanaethau i bobl hŷn?
Byddwn ni:
- Yn nodi ymyriadau i ddatblygu gweithwyr cynnal o amrywiol wasanaethau cyhoeddus a chasglu tystiolaeth o'u heffaith.
- Nodi'r dulliau y mae'r ymyriadau hyn yn eu defnyddio i ddarparu'r gweithlu a chyflwyno gwelliannau sefydliadol er budd y gofal a ddarperir i bobl hŷn.
- Ymchwilio i'r nodweddion cyd-destunol sy'n dylanwadu ar effaith posib y dulliau hyn ar safonau gofal clinigol i bobl hŷn.
- Datblygu fframwaith eglurhaol sy'n syntheseiddio canfyddiadau'r adolygiad sy'n berthnasol i wasanaethau sy'n darparu gofal i bobl hŷn.
- Argymell ffyrdd o wella'r broses o gynllunio a gweithredu ymyriadau i ddatblygu'r gweithlu o weithwyr cynnal clinigol.