Blog OPSWISE
Mae’r blog yma yn le i rannu newyddion am OPSWISE gyda pawb sydd a diddordeb. Byddwn yn blogio am yr astudiaeth fel y mae’n datblygu, rhannu gwybodaeth a darparu linciau i adnoddau defnyddiol. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau sydd gennych. Os ydych a diddordeb mewn canfod mwy am astudiaeth OPSWISE, ymwelwch a ni ar opswise.wordpress.com
Dull adolygu
Cynhelir adolygiad realaeth systematig oherwydd mai dyma'r dull mwyaf addas i fynd i'r afael â'r cwestiwn ac amcanion yr astudiaeth.
Mae dulliau synthesis realaeth wedi bod yn datblygu (Greenhalgh et al, 2011) trwy waith aelodau tîm y project hwn (Rycroft-Malone et al, 2012, McCormack et al, 2013) ymysg eraill, ac maent yn dod yn fwyfwy poblogaidd oherwydd eu gallu i ddatgymalu materion cymhleth sy'n ddibynnol ar gyd-destun, megis y cynnig hwn ynglŷn â datblygu'r gweithlu.
Cynhelir ein hadolygiad mewn 4 cam dros gyfnod o flwyddyn a hanner:
- Datblygu damcaniaeth y rhaglen.
- Ceisio, casglu, adolygu a didoli gwybodaeth.
- Profi damcaniaeth y rhaglen a'i mireinio trwy gyfuno tystiolaeth.
- Datblygu argymhellion y gellir eu gweithredu.