Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Blog OPSWISE

Mae’r blog yma yn le i rannu newyddion am OPSWISE gyda pawb sydd a diddordeb. Byddwn yn blogio am yr astudiaeth fel y mae’n datblygu, rhannu gwybodaeth a darparu linciau i adnoddau defnyddiol. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau sydd gennych. Os ydych a diddordeb mewn canfod mwy am astudiaeth OPSWISE, ymwelwch a ni ar opswise.wordpress.com

Cefndir

Mae'r GIG a'i bartneriaid ym maes gofal cymdeithasol dan bwysau i ddatblygu arbenigedd, swyddogaethau, prosesau a modelau gwasanaeth newydd ym maes gofal i bobl hŷn.

Rhagwelir y bydd un o bob pump o bobl dros 65 oed erbyn 2033 (Wise, 2010), a chaiff 70% o'r gyllideb iechyd ei wario ar bobl dros 65 oed (Oliver, 2010). Mae gweithwyr gofal cynorthwyol yn cefnogi'r gweithlu rheoledig, proffesiynol yn eu dyletswyddau o ddydd i ddydd.

Ond mae'r defnydd a wneir o weithwyr gofal cynorthwyol a'u datblygiad wedi bod braidd yn ad hoc hyd yma, gydag amrywiaeth o arferion a dulliau'n cael eu mabwysiadu oherwydd amrywiaeth y swyddogaethau (Nancarrow et al, 2010) a'r gwahaniaethau rhwng ymddiriedolaethau'r GIG (Spilsbury et al, 2010). Mae'r astudiaeth yn ymchwilio i'r modd y mae ymyriadau i ddatblygu'r gweithlu yn gwella sgiliau a safonau gofal gweithwyr sy'n rhoi cefnogaeth glinigol ym maes gwasanaethau i bobl hŷn. Bydd yr astudiaeth yn llenwi bwlch yn y dystiolaeth trwy nodi'r ymyriadau sydd â'r potensial i wella sgiliau a safonau gofal y gweithlu sy'n rhoi cefnogaeth glinigol i bobl hŷn.

Mae gennym ddiddordeb penodol mewn darganfod pa effaith a gaiff ymyriadau i ddatblygu'r gweithlu, ac ar bwy, er mwyn arwain polisi a dulliau gweithredu i ddatblygu'r gweithlu.

Site footer