Blog OPSWISE
Mae’r blog yma yn le i rannu newyddion am OPSWISE gyda pawb sydd a diddordeb. Byddwn yn blogio am yr astudiaeth fel y mae’n datblygu, rhannu gwybodaeth a darparu linciau i adnoddau defnyddiol. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau sydd gennych. Os ydych a diddordeb mewn canfod mwy am astudiaeth OPSWISE, ymwelwch a ni ar opswise.wordpress.com
Y Project
Mae'r project hwn yn ymchwilio i ba ymyriadau datblygu gweithlu sy'n fwy tebygol o weithio i sicrhau gweithlu cynnal gwybodus a medrus i bobl hŷn mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r nifer cynyddol o bobl hŷn ym mhoblogaeth y DU sydd angen gofal yn golygu y bydd datblygu gweithlu cynnal gofal addas yn parhau i fod yn flaenoriaeth hirdymor i reolwyr y GIG a sefydliadau eraill sy'n darparu gofal. Amcan y project hwn yw cyflwyno cyfres o welliannau i gynllunio a gweithredu ymyriadau i weithwyr cynnal sy'n darparu gofal i bobl hŷn mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd yr astudiaeth yn defnyddio methodoleg adolygu realaeth systematig, ffordd newydd o syntheseiddio tystiolaeth i fod yn sail wybodaeth i bolisi ac ymarfer trwy archwilio beth sy'n gweithio mewn ymyriadau cymhleth.
Daw'r astudiaeth i ben yn 2015.
Ceir rhagor o fanylion am yr astudiaeth yma.