Blog OPSWISE
Mae’r blog yma yn le i rannu newyddion am OPSWISE gyda pawb sydd a diddordeb. Byddwn yn blogio am yr astudiaeth fel y mae’n datblygu, rhannu gwybodaeth a darparu linciau i adnoddau defnyddiol. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau sydd gennych. Os ydych a diddordeb mewn canfod mwy am astudiaeth OPSWISE, ymwelwch a ni ar opswise.wordpress.com
Cynnydd a gweithgareddau
Gweithdy adeiladu theori OPSWISE 30/1/14
Yn ystod y broses o ddatblygu theoriau rhaglenni cychwynnol, un o weithgareddau cynnar y tim oedd cynnal gweithdy adeiladu theori gyda deilliaid diddordeb (e.e. addysgwyr, ymarferwyr, rheolwyr, a cynrychiolwyr y cyhoedd a chleifion), er mwyn adnabod a blaenoriaethu y theoriau a fydd yn cael eu profi yn yr astudiaeth. Er mai yn Gogledd Cymru y cynhaliwyd y gweithdy, roedd system fideo-gynadledda yn galluogi trafodaeth eang!
Mewn grwpiau, cynhaliwyd trafodaeth gychwynnol am elfennau craidd ymyriadau datblygu gweithlu mewn gwasanaethau pobl hyn, a oedd yn ddefnyddiol i adnabod beth oedd yn bwysig i'r deilliaid diddordeb.
Gwyliwch y fan yma am glipiau ffilm am gyfranniad y gweithdy i'r broses o ddatblygu theori